Cofnodion y cyfarfod diwethaf
17 Mehefin 2014
12:30-13:15
Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel
YN BRESENNOL: |
||
|
||
Rebecca Evans AC (Cadeirydd) |
RE |
Canolbarth a Gorllewin Cymru (Llafur Cymru) |
Bethan Jenkins AC |
BJe |
Dwyrain De Cymru (Plaid Cymru) |
|
||
Jackie Aplin |
JA |
Mrs Joyce Watson AC |
Y Cynghorydd Ian Johnson |
IJ |
Staff Cymorth Plaid Cymru |
Colin Palfrey |
CP |
Staff Cymorth Lindsay Whittle AC |
Claire Stowell |
CS |
Staff Cymorth Rebecca Evans AC |
|
||
Katie Dalton (ysgrifennydd) |
KD |
Gofal |
Ewan Hilton |
EH |
Gofal |
Amy Lloyd |
AL |
Samariaid |
Peter Martin |
Prynhawn |
Hafal |
Tony Smith |
Cymorth Tîm |
Journeys |
Manel Tippett |
MT |
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru |
Alex Vostanis |
AV |
BACP |
|
||
Dr Tina Alwyn |
TA |
Seicolegydd Siartredig Darllenydd ym maes Gorddibyniaeth ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd |
Dr Bev John |
BJo |
Seicolegydd Siartredig Darllenydd mewn Seicoleg a Pennaeth Ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol De Cymru |
Dr Eiddwen Thomas |
ET |
Ymgynghorydd Iechyd ac Ymchwil Gymdeithasol |
CPGMH/NAW4/23 - Croeso ac ymddiheuriadau |
Camau Gweithredu |
|
RE
KD
|
Croesawodd RE bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl.
CAFWYD
Ymddiheuriadau gan aelodau absennol: · David Melding AC · Simon Thomas AC · Ruth Coombs (Mind Cymru) · Suzanne Duval (Diverse Cymru) · Junaid Iqbal (Hafal) · Sarah Stone (Samariaid) · Richard Thomas (Mental Health Matters) · Bill Walden-Jones (Hafal)
|
|
CPGMH/NAW4/24 - Mynediad at, a darpariaeth, therapi seicolegol yng Nghymru |
Camau Gweithredu |
|
RE
TA, BJo, ET
Pawb
RE |
Croesawodd RE Dr Tina Alwyn, Dr Bev John a Dr Eiddwen Thomas i'r cyfarfod a'u gwahodd i roi cyflwyniad am eu hadolygiad i fynediad i, a darpariaeth, therapi seicolegol yng Nghymru.
Fe wnaeth TA, BJo ac ET gyflwyniad a chodwyd y pwyntiau allweddol canlynol:
Methodoleg: · Cyfweliadau strwythuredig gyda darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl. · Defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr - grwpiau ffocws ac arolwg ar-lein · Adolygu canfyddiadau NAPT cyfnod 2
Canfyddiadau: darparu gwasanaethau · Mae gwasanaethau Iechyd Meddwl yn darparu ystod o therapïau seicolegol ar draws pob un o'r haenau triniaeth (ac ar gyfer ystod o gyflyrau) · Ar y cyfan, lle mae therapi yn cael ei ddarparu, mae'r dulliau yn cael eu llywio gan ganllawiau NICE a 'Therapïau Seicolegol yng Nghymru: Canllawiau Gweithredu Polisi' (Llywodraeth Cymru, 2012) · Mae gwahaniaethau o ran argaeledd ac ansawdd cymharol gwasanaethau a thriniaeth. Mae hyn yn amlwg ar lefel ranbarthol, lefel gwasanaeth a lefel ymarferwyr. · Mewn llawer o ardaloedd ceir darpariaeth gyfyngedig o therapi seicolegol i gleifion mewnol, neu dim darpariaeth o gwbl. · Yn aml, caiff unigolion sydd ag anghenion cymhleth ac sydd angen therapi seicolegol dwysedd uchel eu rhoi ar restrau aros hir, a all gymryd hyd at ddwy flynedd.
Canfyddiadau: defnyddwyr gwasanaeth · Dywedodd ymatebwyr a gafodd eu cyfeirio at ofal sylfaenol eu bod wedi cael eu gweld yn gymharol gyflym · Roedd y mwyafrif helaeth a oedd angen therapi seicolegol cymhleth yn teimlo bod amseroedd aros yn rhy hir · Y canfyddiad yw bod hyd yr arhosiad yn cael effaith negyddol uniongyrchol ar iechyd · Ychydig iawn o wybodaeth neu ddewis o ran triniaethau ac amseroedd aros · Diffyg gwybodaeth a gofal tameidiog, sy'n arwain at deimladau o ddiffyg rheolaeth, lefel isel o hunan-effeithiolrwydd a diymadferthedd · Disgwyliadau heb eu bodloni ar sawl achlysur, e.e. 'math' o therapi a therapydd · Materion o ran dealltwriaeth cleifion o ffocws therapi, nifer y sesiynau, IDTs a chymwysterau therapyddion · O blith y defnyddwyr gwasanaethau sydd wedi gallu cael gafael ar driniaeth seicolegol priodol, mae llawer yn fodlon ar eu profiad a byddent yn argymell y driniaeth i ffrindiau a theulu
Canfyddiadau: darparwyr gwasanaeth · Ar y cyfan, mae'r Mesur yn cael ei ystyried yn gadarnhaol. · Ceir rhywfaint o dystiolaeth o newid patrwm i ddull ‘psychologically minded’ a ‘psychologically informed’, ond mae'r model meddygol dominyddol yn dal i gael ei weld fel rhwystr i hyn. · Mae gwrthdaro posibl o ran newidiadau i rai rolau, cyfrifoldebau a ffiniau proffesiynol. · Rhaid i dimau i fod yn ddyfeisgar, oherwydd bod yn rhaid hwyluso newid o fewn adnoddau presennol. · Gwelir bod asesu yn ffactor allweddol o ran sicrhau bod cleifion yn derbyn ymyriadau priodol ac amserol. Fel y cyfryw, mae angen i unigolion sy'n cynnal asesiadau fod yn weithwyr proffesiynol cymwys a phrofiadol · Byddai paratoi cleifion cyn y driniaeth (ffocws y driniaeth) yn: osgoi rhagdybiaethau gwallus am bwrpas/cwmpas; cynorthwyo ymgysylltiad o ran cynghrair therapiwtig; gost effeithiol; rheoli disgwyliadau
Materion ar gyfer darparu gwasanaethau · Amseroedd aros ac atgyfeiriadau amhriodol am ofal eilaidd · Polisi a chanllawiau ynghylch goruchwylio - gall hyn arwain at ddiffyg ffyddlondeb i brotocolau triniaeth. · Mesur a choladu canlyniadau · Systemau Technoleg Gwybodaeth yn arwain at systemau anghydnaws rhwng gwasanaethau, sydd yn achosi problemau wrth weithredu llwybr triniaeth gydweithredol. · Anghysondebau mewn hyfforddiant sy'n arwain at sylfaen sgiliau ad-hoc ymysg y gweithlu · Mae darparu therapi seicolegol yn dibynnu ar sgiliau a chymhwysedd y staff yn hytrach nag anghenion y defnyddwyr gwasanaeth. · Mae prinder o ran darparu therapïau seicolegol mewn cyfleusterau cleifion mewnol ar gyfer oedolion ac oedolion hŷn. · Mae cyllidebau hyfforddiant yn gyfyngedig. · Canfyddiad bod diffyg llwybrau gyrfa.
Canfyddiadau: arfer da · Mae darpariaeth therapi seicolegol ar gyfer cyflyrau yn ychwanegol at y rhai ar gyfer pryder ac iselder, megis anhwylder straen wedi trawma, anhwylderau personoliaeth, seicosis, sgitsoffrenia, camddefnyddio sylweddau, anhwylderau bwyta. · Mae'n ymddangos bod y gwasanaethau 'both ac adain' yn dangos arfer da o ran darparu, hyfforddi a goruchwylio (ar lefel leol a Chymru-gyfan) · Mewn rhai ardaloedd, caiff gweithwyr iechyd meddwl eu hyfforddi a'u goruchwylio ar lefel leol gan arbenigwyr i ddarparu therapi seicolegol ar gyfer grwpiau penodol o unigolion (e.e. rhai sydd ag anhwylderau bwyta, ymyrraeth gynnar mewn seicosis).
Trafododd aelodau'r grŵp trawsbleidiol y materion a godwyd yn y cyflwyniad, gan gynnwys anghysondebau yn y ddarpariaeth; amseroedd aros hir ar gyfer mynediad at therapïau seicolegol mewn gofal eilaidd; diffyg data ar lefelau cymhwyster / cymhwysedd therapyddion seicolegol; ansawdd yr oruchwyliaeth glinigol, polisi a chanllawiau; yr angen i asesiadau gael eu cynnal gan weithwyr proffesiynol â chymwysterau priodol; a'r angen i fesur canlyniadau.
Diolchodd RE i TA, BJo ac ET am eu cyflwyniad. |
RE i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch mynediad at, a darpariaeth, therapïau seicolegol.
KD i gysylltu â RE, TA, BJo, ET a WAMH i gytuno ar gynnwys y llythyr.
|
CPGMH/NAW4/25 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
Camau Gweithredu |
|
RE
|
CYMERADWYWYD
Cofnodion y cyfarfod diwethaf.
|
|
CPGMH/NAW4/26 - Camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf |
Camau Gweithredu |
|
KD |
Rhoddodd KD y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am y camau a gymerwyd ers y cyfarfod diwethaf.
· CPGMH/NAW4/17 - Amser i Newid Cymru
CAM I'W GYMRYD: RE i ystyried Datganiad Barn i gefnogi TTCW Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Cafodd Datganiad Barn ei gyflwyno ar 10 Mehefin 2014 gan Rebecca Evans AC, Llyr Gruffydd AC, David Melding AC a Eluned Parrott AC. (Cafodd copi o'r Datganiad Barn ei ddosbarthu gyda phapurau'r cyfarfod).
CAM I'W GYMRYD: ACau i ddangos cefnogaeth i TTCW Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae nifer o Aelodau'r Cynulliad wedi dangos eu cefnogaeth i Amser i Newid Cymru dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gan ddatgan eu cefnogaeth i'r ymgyrch mewn trafodaeth ddiweddar yn y Cynulliad ac ar gyfryngau cymdeithasol.
CAM I'W GYMRYD: RE i ysgrifennu at arweinwyr y pleidiau ynghylch addewid sefydliadol Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: RE wedi ysgrifennu at arweinwyr yr holl bleidiau, yn eu hannog i lofnodi'r addewid TTCW sefydliadol. (Cafodd copi o'r llythyr ei ddosbarthu gyda phapurau'r cyfarfod).
Yn gysylltiedig â'r pwyntiau gweithredu uchod: Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: RE hefyd wedi ysgrifennu at arweinyddion Awdurdodau Lleol yng Nghymru i ofyn a ydynt wedi nodi pencampwr TTCW o fewn eu hawdurdod ac ymgymryd ag unrhyw weithgaredd dilynol i leihau stigma a gwahaniaethu - yn unol â'r cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl
· CPGMH/NAW4/12 - Law yn Llaw at Iechyd Meddwl
CAM I’W GYMRYD: WAMH i drafod adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a llunio papur briffio i Aelodau'r Cynulliad. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: WAMH wedi cyfarfod a thrafod yr adroddiad blynyddol. Bydd yn llunio papur briffio ar gyfer Aelodau'r Cynulliad cyn y cyfarfod nesaf.
CAM I’W GYMRYD: JI i fynd â'r llythyrau at y Fforwm Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr Cenedlaethol a gofyn am ei farn ar ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar lefel bwrdd iechyd lleol. JI i adrodd yn ôl mewn cyfarfod grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: JI i adrodd nôl yn y cyfarfod nesaf. Cafodd adroddiad gan y Fforwm Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr Cenedlaethol ei ddosbarthu cyn y cyfarfod.
CAM I’W GYMRYD: RE i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog am y mater hwn. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Bydd WAMH rhoi'r wybodaeth berthnasol i RE pan fydd ar gael.
|
|
CPGMH/NAW4/27 - Adolygiad o'r cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl |
|
|
EH
PM
BJe |
Rhoddodd EH ddiweddariad i'r aelodau am yr adolygiad, sydd wedi cael ei ddwyn ymlaen gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r Cylch Gorchwyl yn cael ei ysgrifennu ar hyn o bryd. Mae WAMH yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i glustonodi (ring-fence) gwariant iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae WAMH yn credu bod angen adolygiad i edrych ar werth am arian, ac nid y swm a wariwyd yn unig. Mae angen iddo gymharu gwariant yn erbyn canlyniadau i fod yn unol â natur Law yn Llaw at Iechyd Meddwl , sy'n seiliedig ar ganlyniadau.
Mae ffigurau diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod gwariant y GIG ar iechyd meddwl yng Nghymru wedi gostwng am y tro cyntaf yn 2012-13, sydd yn peri pryder. http://wales.gov.uk/docs/statistics/2014/140611-gig-Gwariant-rhaglen-cyllidebau-2012-13-en.pdf
Efallai y byddwn yn gallu holi'r Gweinidog ynglŷn â hyn yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i CAMHS.
|
|
CPGMH/NAW4/28 - Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol |
|
|
EH
|
Cafodd adroddiad y Fforwm Defnyddiwr Gwasanaeth a Gofalwyr Cenedlaethol ei ddosbarthu cyn y cyfarfod. Roedd cynrychiolwyr y fforwm yn teimlo bod adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn cynnwys llawer o enghreifftiau cadarnhaol o arfer da ond efallai nad yw wedi adlewyrchu yn llawn rai o'r heriau sy'n dal i fodoli. |
|
CPGMH/NAW4/29 - Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol |
|
|
KD |
Cadarnhaodd KD y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 7 Hydref 2014 (12:45-13:15) |
|
RE
|
Diolchodd RE i bawb am eu presenoldeb a diolchodd TA, BJo a ET eto am eu cyflwyniad, a oedd yn llawn ac yn ddiddorol iawn. |
|